Math | Tarren |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.5503°N 2.6547°W |
Tarren galchfaen yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Cefn Gweunllwg[1] (Saesneg: Wenlock Edge). Fe'i dynodir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei ddaeareg arbennig, ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheoli rhan fawr o'r ardal.[2] Mae'n ymestyn am dros 19 milltir (31 km) o hyd, yn rhedeg o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain rhwng Craven Arms a Much Wenlock. Mae'n codi tua 1,083 troedfedd uwch lefel y môr. Mae coedwigoedd collddail yn gorchuddio llawer o lethrau serth y darren.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search